Text Box: Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
 Y Prif Weinidog 
 Llywodraeth Cymru 
 Tŷ Hywel, Bae Caerdydd 
 Caerdydd CF99 1NA 18 Mawrth 2016

 

CYFARFOD AR 26 CHWEFROR 2016

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar i chi a'ch swyddogion am ddod i'n cyfarfod ar 26 Chwefror.  

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor wedi edrych ar nifer o feysydd gyda chi.  Roedd y cyfarfod ar 26 Chwefror yn cynnig y cyfle i'r Pwyllgor ailedrych ar y meysydd hyn.  Mae'r materion yr ydym wedi ymdrin â hwy a'r rhai yr ydych wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni arnynt ar gyfer y cyfarfod hwn yn cynnwys;

·         Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

·         Uned Gyflawni'r Prif Weinidog

·         Tlodi plant

·         Prosiectau seilwaith mawr yng ngogledd Cymru

·         Perthynas gyda'r trydydd sector a'r sector preifat

·         Newid yn yr Hinsawdd

·         Hyrwyddo a Marchnata Cymru

·         Y Gymraeg

·         Penodiadau cyhoeddus pwysig

Rydym hefyd wedi edrych mewn cyfarfodydd diweddar ar rai o'r datblygiadau cyfansoddiadol sydd dan ystyriaeth yn y Cynulliad ac yn ehangach. 

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am eich ymatebion llawn i'n cwestiynau yn y cyfarfod diwethaf ac ar gyfer eich agwedd agored yn ystod y Cynulliad.  Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi gofyn i mi ysgrifennu atoch â'r sylwadau a ganlyn a rhai cwestiynau ychwanegol sy'n codi o'ch sylwadau. 

Tlodi plant

Nododd y Pwyllgor ei fod yn ymddangos eich bod yn ffafrio datganoli'r Rhaglen Waith i Gymru, ond yn amharod iawn i gytuno i ddatganoli budd-daliadau. Roeddech yn arbennig o bryderus efallai na fyddai cyllideb lawn er mwyn cwrdd â chostau'r budd-daliadau yn cyd-fynd â datganoli'r budd-daliadau hynny.

Gwnaed y pwynt yn y cyfarfod bod rhaglenni gwaith yn y DU wedi'u cysylltu'n annatod ​​â'r system fudd-daliadau ac mai drwy'r system fudd-daliadau y mae pobl yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn rhaglen waith.  Gofynnwyd i chi sut y gallai datganoli'r rhaglenni gwaith heb ddatganoli'r system fudd-daliadau weithio.

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am eich ymateb yn y cyfarfod ond byddem yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu arno i fynd i'r afael â'r hyn sy'n ymddangos fel gwrthddweud o ran datganoli'r Rhaglen Waith heb ddatganoli rhannau sylweddol o leiaf o'r system fudd-daliadau.

Perthynas gyda'r trydydd sector a'r sector preifat

Mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn eithriadol o bwysig y dylai cyrff trydydd sector deimlo'n rhydd i weithredu fel lleisiau beirniadol annibynnol mewn cymdeithas ddinesig.   Byddai'r Pwyllgor, felly, yn hoffi canmol eich ymateb i'r cwestiwn am sicrhau nad yw penderfyniadau ariannu yn atal y trydydd sector rhag bod yn feirniadol o bolisïau a mentrau'r Llywodraeth.  Mae eich datganiad clir eich bod yn croesawu beirniadaeth o'r fath yn ganmoladwy.

Buom yn trafod a oedd y trydydd sector wedi mynd yn or-ddibynnol ar gyllid y sector cyhoeddus a sut mae'r cydbwysedd cyllid rhwng y sector cyhoeddus a ffynonellau eraill o incwm wedi newid. Yn benodol, roeddem yn poeni am sut y mae'r Llywodraeth yn helpu'r trydydd sector yng Nghymru i amrywio ei sylfaen gyllid.  Nid oedd yn hollol glir i ba raddau yn ystod y 18 mis diwethaf y mae'r cydbwysedd cyllid sector cyhoeddus ar gyfer y trydydd sector wedi newid o gyllid craidd i ariannu ar sail prosiect.  Nid oeddem yn glir chwaith a yw ffynonellau eraill o gyllid wedi gallu llenwi'r bwlch o ganlyniad i ostyngiadau mewn arian cyhoeddus.  Byddem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach y gallwch ei darparu a allai egluro'r mater hwn ymhellach.

Trafodwyd hefyd y gwasanaeth caffael cenedlaethol a oedd i fod i ariannu ei hun erbyn mis Ebrill 2016. Yn y cyfarfod, nododd Mr Price mai'r bwriad o hyd yw i'r gwasanaeth ariannu ei hun, ond y byddai hyn yn awr yn digwydd  '... tua 12 mis yn ddiweddarach ...'. A allwch gadarnhau na fydd y targed gwreiddiol i'r gwasanaeth ariannu ei hun erbyn mis Ebrill 2016 yn awr yn cael ei fodloni, pryd yn union yr ydych yn disgwyl i'r targed gael ei fodloni a sut y bydd unrhyw ddiffyg ariannol yn y cyfamser yn cael ei drin?

Newid yn yr Hinsawdd

Nododd y Pwyllgor eich atebion ar yr her o gwrdd â'r gostyngiad mewn allyriadau carbon.  Yr oeddech yn fodlon bod y targed blynyddol o 3% ar gyfer allyriadau mewn meysydd datganoledig yn cael ei fodloni ac y rhagorir arno hyd yn oed.  Amlinellwyd gennych yr heriau mwy o gwrdd â'r gostyngiad o 40% mewn allyriadau cyffredinol erbyn 2020.  Nododd y Pwyllgor hefyd y nod i gyflawni gostyngiad o 80% o leiaf mewn allyriadau erbyn 2050.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r symudiad tuag at ddull cyllidebu carbon i'w gyflwyno o ganlyniad i Fil yr Amgylchedd (Cymru).  Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn pryderu bod angen i dargedau yn y dyfodol fod yn gydlynol, eu bod yn cael eu mesur a'u hadrodd yn effeithiol, a'u bod yn cael blaenoriaeth ddyledus ar draws llywodraeth Cymru.  Yn sgil yr heriau yr ydych wedi'u hamlinellu, byddem yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym sut y bydd y dull cyllidebu carbon newydd yn helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn.

Hyrwyddo a Marchnata Cymru

Rhoddodd Mr Price ffigurau yn y cyfarfod am effaith economaidd net swyddi sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru mewn rhyw ffordd.  Darparodd rywfaint o wybodaeth hefyd am effaith cyllid yr UE o ran creu a chefnogi swyddi.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar i gael gwybodaeth fwy manwl am gyfraniad cronfeydd yr UE i economi Cymru, yn enwedig mewn perthynas â chyflogaeth a gwerth ychwanegol crynswth.

Penodiadau Cyhoeddus Pwysig

Yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2015 fe wnaethon ni ganolbwyntio ar y ffordd orau o sicrhau annibyniaeth Comisiynwyr (a swyddi tebyg, fel yr Ombwdsmon a'r Archwilydd Cyffredinol) rhag Llywodraeth Cymru, tra'n sicrhau hefyd eu bod yn destun craffu gwleidyddol eang a'u bod yn atebol am eu perfformiad.

Ar y pryd nodwyd parodrwydd gennych i ystyried a fyddai modd cynnal y broses benodi ac atebolrwydd penodiadau cyhoeddus pwysig mewn modd gwahanol.  Gofynnodd y Pwyllgor yn benodol am yr egwyddor o 'Ddeddf Comisiynydd' a allai atgyfnerthu'r egwyddorion hyn mewn ffordd gyson ar draws yr holl Gomisiynwyr a swyddi cyfatebol. Fodd bynnag, mewn ymateb gan y Llywodraeth i'r adolygiad annibynnol ar y Comisiynydd Plant, gwrthododd y Llywodraeth argymhellion i'r perwyl hwn.

Yn ein cyfarfod diwethaf dywedasoch y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf ystyried sut y gall y broses benodi ar gyfer gwahanol Gomisiynwyr gael ei gwneud yn fwy cyson o ran y broses benodi a'r ffordd y mae'r Comisiynwyr yn gweithredu.  Dywedasoch, 'Cawson nhw eu creu ar adegau gwahanol; mae mwy ohonynt nag yr oedd ar un adeg, ac rwy'n credu ei fod yn anorfod y bydd yn rhaid cael adolygiad i sicrhau bod yna gysondeb yn gyffredinol.'

Teimlai'r Pwyllgor fod ychydig o anghysondeb rhwng eich parodrwydd amlwg i gefnogi newidiadau er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ac annibyniaeth a'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod cynigion penodol i gyflawni hyn.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech egluro eich syniadau ar y mater hwn.

Mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus eraill, roedd y Pwyllgor yn falch o weld y cynnydd a wnaed o ran cwrdd â'r targed o 40% ar gyfer penodi menywod i swyddi a reoleiddir.  Nododd y Pwyllgor y camau sy'n cael eu cymryd i ddod â nifer y menywod a benodir i swyddi nad ydynt wedi'u rheoleiddio i'r targed o 40% o leiaf, ond mae'r Pwyllgor yn rhannu eich siom ynghylch y sefyllfa bresennol, sydd ymhell o dan 40%. 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd yn y cyfarfod ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â phenodiadau o grwpiau eraill a dangynrychiolir.  Cytunasoch i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth:

·         yn cymharu cyfran yr ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus o grwpiau sydd wedi'u  tangynrychioli â chyfran y penodiadau gwirioneddol o'r grwpiau hyn;

·         ynghylch effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir i annog ceisiadau gan bobl yn y grwpiau hynny.

Ysgrifenasoch ataf ar 10 Mawrth gyda rhagor o wybodaeth am y pwyntiau hyn. Ymhlith materion eraill, nodaf y canlynol o'ch llythyr:

·         Mae gan fenywod ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig well cyfradd drosi o wneud cais i gael eu penodi nag unrhyw grŵp arall. Mae menywod ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig unwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu penodi nag ymgeiswyr eraill.

·         Mae ymgeiswyr anabl bron ddwywaith yn fwy tebygol o fethu â chael eu penodi nag ymgeiswyr eraill.

·         Mae ymgeiswyr gwrywaidd draean yn llai tebygol o fethu â chael eu penodi nag ymgeiswyr eraill.

Ar y cyfan, mae'r patrwm hwn yn ymddangos yn rhesymol wrth geisio cywiro anghydbwysedd hanesyddol mewn penodiadau cyhoeddus, er yn sicr mae'r gyfradd benodi ar gyfer ymgeiswyr anabl yn fater o bryder penodol.

Y Gymraeg

Gofynnwyd i chi am eich gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol yr iaith, yn enwedig faint o bobl ddwyieithog y byddech yn hoffi eu gweld yng Nghymru erbyn 2050.  Mewn ymateb, dywedasoch y byddech yn hoffi gweld 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.   Fel y nodwyd gennych hefyd, mae gosod uchelgais rhywfaint yn haws na'i gyflawni, ond roedd y Pwyllgor yn falch clywed yr uchelgais yn eich ymateb a hoffai ofyn a ydych yn credu y dylai'r uchelgais hwn ddod yn bolisi gan y Llywodraeth?

Materion Cyfansoddiadol

Nododd y Pwyllgor â diddordeb eich ymatebion ar y cwestiwn o awdurdodaeth ar wahân neu wahanol.

Ers i ni gyfarfod cafwyd dau ddatblygiad arwyddocaol arall, sef penderfyniad llywodraeth y DU i oedi ac ystyried mewn perthynas â Deddf Cymru drafft a'ch llywodraeth chi yn cyhoeddi Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru drafft.  Mae'r olaf yn amlwg yn cynnig rhagor o fanylion am farn eich llywodraeth o ran ffurf y setliad cyfansoddiadol ar gyfer Cymru yn y dyfodol ac mae eisoes wedi arwain at rai trafodaethau. 

Yn gynharach yn ein cyfarfod, soniasoch hefyd am eich pryderon y gallai camau'r  Twrnai Cyffredinol, wrth gyfeirio Bil Cymru i'r Goruchaf Lys, achosi i'r Bil syrthio drwy ei ohirio nes i'r Cynulliad gael ei ddiddymu.  Byddai'n ddiddorol gwybod sut y gellid osgoi'r sefyllfa hon ac a yw'r Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru yn mynd i'r afael yn benodol â'r mater hwn.

Rôl y Pwyllgor yn y Dyfodol

Rwyf wedi ysgrifennu ar wahân at y Llywydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, gyda rhai sylwadau ar y Pwyllgor a sut y gallai weithio yn y Cynulliad nesaf.  Anfonais gopi o'r llythyr atoch chi er mwyn i chi gynnig eich barn ar y mater pe byddech yn hoffi gwneud hynny.

Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb ar y pwyntiau uchod maes o law, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau gwe y Pwyllgor. 

Yn gywir

David Melding AC

Y Dirprwy Lywydd

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog